Gan symud trwy amser ar hyd Bae Ceredigion/Cardigan Bay, rydyn ni’n cyrraedd argyfwng hinsawdd ein dyddiau ni. 

Mae Sarn Gynfelyn yn dod i’r golwg bob llanw isel ac yn edrych fel heol yn arwain i’r môr. Mewn gwirionedd, mae’n farian rhewlifol a ffurfiwyd 20,000 o flynyddoedd yn ôl pan doddodd y llenni iâ, ac mae’n nodi dechrau’r amodau byd-eang sydd wedi galluogi bodau dynol i ymledu. 

Yn y Borth, bu coedwig sy’n 6,000 o flynyddoedd oed yn ffynnu am rai miloedd o flynyddoedd. Fe’i boddwyd gan y môr, ond ers hynny mae wedi cael ei datgelu eto mewn stormydd diweddar. Cyfeirir at Sarn Gynfelyn a choedwig y Borth fel ei gilydd fel cefnogaeth i chwedl  Cantre'r Gwaelod am dir ffrwythlon a gollwyd ym Mae Ceredigion, ond mae’r ddaeareg yn adrodd stori wahanol. 

Wrth fynd yn ein blaenau, cyrhaeddwn Fairbourne, tref lan môr a godwyd ar forfa heli a chyfoeth diwydiannol Lloegr. Bellach, hon fydd y dref gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gael ei dadgomisiynu oherwydd bod lefel y môr yn codi. Bydd yn cael ei dymchwel a’i dychwelyd i’r morfeydd heli, ar ôl bodoli am lai na 200 o flynyddoedd. 

Yn y parth rhynglanw, rhwng y tir a’r môr, mae tri pherson yn symud gyda delweddau ysgubol trwy’r tri safle rhyfeddol hyn.

Mae amser / time wedi gweld llwyddiant enfawr a chydnabyddiaeth eang ar draws ystod o wyliau, ac wedi ennill mewn pum gŵyl, cyrraedd y rownd derfynol a’r rownd gynderfynol mewn tair gŵyl, ac wedi cael ei ddethol mewn 13 o wyliau eraill!

Rydym yn hapus i gyhoeddi'r rhestr lawn isod:

Enillydd

Gŵyl MOVING BODY - Dawns Sgrîn / Ffilm Ddawns

Gŵyl Ffilmiau Sherman Oaks - Ffilm Fer - Celfyddydol/Arbrofol

Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Rameshwaram - Cystadleuaeth Ryngwladol - Ffilmiau Byr a Chelfyddydau Perfformio

GŴYL DAWNS FIDEO DINAS MECSICO - Adran Ryngwladol

Gŵyl Ffilmiau SeeMor - Ffilmiau Artistiaid

Rownd derfynol

Gwobrau Ffilmiau Byr Prydain

Rownd Gynderfynol

Films for the Forest

Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Boden

Wedi’i Ddethol

Shorts On Tap Llundain

Gŵyl Ffilmiau Byr Ryngwladol Bengal

Gŵyl Ffilmiau Byr San Francisco a gyflwynir gan SF IndieFest

Gŵyl Ffilmiau Still Voices

Gŵyl Ffilmiau Golden Short

FilmFest gan Rogue Dancer

Yr Ŵyl Ffilmiau Menywod

Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Rameshwaram

Gŵyl Sinema Ddawns Sans Souci

Gŵyl Ffilmiau Dawns Portland

Gŵyl Ffilmiau Defy

Yr Ŵyl Ffilmiau Arbrofol, Dawns a Cherddoriaeth

YoFiFest, Gŵyl Ffilmiau Yonkers

Rydyn ni mor falch! Gallwch wylio'r ffilm o hyd ar y BBC:

https://www.bbc.co.uk/programmes/p0bm6sv3

Mae amser / time yn gomisiwn #DancePassion 2022 a ariennir gan BBC Arts ac One Dance UK.

#DANCEPASSION

Ar hyd mis Chwefror a mis Mawrth 2022, bydd BBC Arts a One Dance UK yn cyflwyno #DancePassion, dathliad tirnod o ddawns o’r radd flaenaf sy’n digwydd ar draws y Deyrnas Unedig. Dyma’r ail rifyn o Dance Passion, ac mae’n bwrw goleuni ar allu creadigol unigryw ein gwlad a’i hagwedd arloesol at goreograffi a pherfformiad. Ar hyd y dathliad, bydd gwefannau a sianeli cyfryngau cymdeithasol BBC Arts a One Dance UK yn cyflwyno rhagflas a chlipiau unigryw o’r gyfres, yn ogystal ag enghreifftiau eraill o ragoriaeth ar draws y sector dawns. Dilynwch yr hashnod #DancePassion ar y cyfryngau cymdeithasol i weld mwy o gynnwys unigryw, a chael hyd i ffyrdd eraill o ymwneud â’r gyfres.

Mae ffilm fer Light Ladd Emberton, amser / time, yn cael ei dangos am y tro cyntaf fel rhan o #DancePassion 2022. Mae rhannau o’n sioe arobryn CAITLIN, a ffilmiwyd gan y BBC ar leoliad yng Nghaerdydd fel rhan o’r Dance Passion cyntaf yn 2019, yn dal ar iPlayer.

CAST & CHREADIGOL

Cyfarwyddwr Deborah Light

Cysyniad a Choreograffi Deborah Light, Eddie Ladd, Gwyn Emberton

Cyfarwyddwr Ffotograffiaeth a Golygu Pete Telfer (Culture Colony)

Cyfansoddwr a Dylunydd Sain Sion Orgon

Cynhyrchydd Laura H Drane

Perfformwyr Eddie Ladd, Deborah Light, Jake Nwogu

Llyw Drôn a Gimbal Rob Key

Cynorthwywyr Camera Lowri Paige, Kieran Shand, Felix Cannadam

Rhedwr Lucy Wordsworth

Graddio Gorilla

Diolch i Dr. Martin Bates

CEFNOGWYD AC ARIANNWYD GAN

Comisiynwyd gan BBC Arts a One Dance UK Arts Council England - Arianwyd gan Arts Council England

Cymorth ychwanegol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru


Cysylltwch â
: lightladdemberton@gmail.com