AMDANOM NI
Nid cwmni o gyfreithwyr mo Ladd, Light ac Emberton ond tri artist dawns a chynhyrchydd.
Daeth Deborah, Eddie a Gwyn at ein gilydd yn 2014 i weithio sioe o’r enw CAITLIN a, thrwy ryfedd wyrth, roeddwn yn ffrindiau o hyd ar ei ddiwedd. Ymunodd Laura gyda ni yn 2015. Ers hynny, rydym wedi cydweithio fesul prosiect ac yn tynnu poblach greadigol o bob math atom i greu a dangos cynyrchiadau na fyddem yn medru eu creu ar ein pen ein hunain. Mae rhai ohonynt wedi gweithio gyda ni am sawl blwyddyn ac eraill yn newydd.
Mae’n sioeau dwyieithog yn cyffro’r enaid a chodi’r gynulleidfa ar eu traed i rodio gyda ni i gestyll, neuaddau pentref, theatrau, trefi a thraethi, yma yng Nghymru a thu hwnt. Bathwn gynyrchiadau o hanes a hunaniaeth Cymru, storiau sydd weithiau wedi mynd i lwch yr amser gynt, er mwyn cysylltu’r gorffennol â’r presenol, y filltir sgwâr a’n bychanfyd gyda’r byd mawr.
Ymhlith ein cynyrchiadau mae: Croesi Traeth/Crossing A Beach; Disgo Distaw Owain Glyndŵr Silent Disco a Disgo Zoom Disco gdg/feat. Owain Glyndŵr; Danfona Ddawns/ Deliver A Dance. Mae’n prosiect ymchwil diweddaraf yn trin argyfwng yr hinsawdd.
Y’ ni’n dwlu ar berfformio ar gyfer a chyda chynulleidfaoedd ledled Cymru. Rydym yn falch iawn i ni fod yn rhan o Showcase Caeredin Y Cyngor Prydeinig, Surf the Wave (sydd yn siop ffenest i ddawns yn y DG), A Nation’s Theatre yng Nghanolfan y Celfyddydau Battersea, Cymru yn Kolkata yn India a Dance Passion y BBC. Bron i ni wireddu breuddwyd wrth gael ein gwahodd i Dance Umbrella 2020 ond rhyng-gipiodd Cofid y bêl…
EIN CYDWEITHWYR
Rydym yn annog i’r sawl sydd am weithio gyda ni i yrru gair atom. Mae yna groeso wastad i bartneriaid, perfformwyr a phobl greadigol o bob math.
Mae’r rhestr yn hirfaith! Rhowch showt os ydych yn: artist sain/cyfansoddydd, gwneuthurydd ffilm, perfformiwr, dylunydd, ffotograffydd, criw cynhyrchu, ymchwilydd, hwylusydd hygyrchedd neu gerddor.
Mae’r gydnabyddiaeth lawn i bob sioe ar ei thudalen neilltuol.
Ymrown i wneud ein gwaith yn hygyrch i’n cynulleidfa. Er enghraifft, mae un o’n partneriaid, Cwmni Theatr Taking Flight, wedi ein helpu i greu profiad cyfannol i gynulleidfaoedd byw ac ar-lein. Yn ddiweddar, buont yn dehongli ar gyfer y byddar/trwm eu clyw neu’r sawl sydd â’u golwg yn wael yng nghynyrchiadau Owain Glyndŵr a Danfona Ddawns.