Jennifer_Caitlin_05.jpg

Mae wedi bod yn berfformiwr theatr gorfforol a dawns ers oes pys. Gweithiodd gyda Moving Being, Hijinx, Volcano, Theatrig a Brith Gof ymysg eraill cyn bwrw ati i greu ei gwaith ei hun a dwyn y cynyrchiadau ar daith i bedwar ban byd.  Wedi dygnu arni nerth deg ewin, mae wedi creu tua ugain o gynyrchiadau ers 1993, rhai mewn theatrau ac eraill ar safleoedd arbennig. Ers 2010 mae hefyd wedi cydweithio fwyfwy gyda nifer o gwmnïau eraill gan gynnwys Jo Fong, Theatr Genedlaethol Cymru, Marc Rees, National Theatre Wales ac iCoDaCo. Mae’n coreograffu gydag actorion hefyd a bu’n gweithio’n ddiweddar ar gynyrchiadau gan Arad Goch, Frân Wen a Theatr Genedlaethol Cymru (sef Nyrsus a Tylwyth).


Photo - Jennifer

Owain+at+the+Eisteddfod.jpg

Ennillodd wobr gan y (Royal Television Society) ym 1994 am ei gwaith cyflwyno ar y teledu. Cafodd Gymrodoriaeth NESTA yn 2002 a Dyfarniad Cymru Greadigol yn 2010. Mae’r siec llaeth (sef cynhaliaeth gyson) yn dod oddi wrth Prifysgol Aberystwyth lle mae’n dysgu bob hyn a hyn ac yn Gymrodor Ymchwil.