Mae Gwyn wedi dawnsio ar gyfer nifer o goreograffwyr a chwmnioedd blaengar yn y DG, Russell Maliphant yn eu plith, a bu’n perfformio gydag Inbal Pinto yn tel Aviv, Israel, am sawl blwyddyn. Bu’n gyfarwyddwr ymarfer a dramtwrg gyda nifer o gyw-goreograffwyr. Dysgodd gyda chwmnioedd megis Skånes Dansteater, Russell Mapliphant, Ballet Cymru ac mewn nifer o ysgolion a chanolfeydd dawns rhyngwladol: The Place (London Contemporary Dance School), Danscentrum Syd (Sweden), Suzanne Dellal Centre (Tel Aviv), Hong Kong Contemporary Dance Centre, a’r Balettakademier yn Gothenburg a Stockholm. Bu’n gyfarwyddwr y radd BA mewn Dawns yn PCDDS yng Nhaerfyrddin am dair mlynedd.