Gwraig y bardd Dylan Thomas oedd Caitlin Thomas. Dechreuodd fynychu cyfarfodydd Alcoholigion Anhysbys ddechrau’r saithdegau, ugain mlynedd wedi i’w gŵr farw.

Llwyfennir y gwaith y tu fewn i gylch o gadeiriau, wedi eu gosod ar gyfer cyfarfod AA. Mae’n gyfle i Caitlin wynebu ei hoes dymhestlog hir, a’r gynulleidfa yn eistedd gyda hi yn dyst i berthynas gariadus, rwystredig, cenfigenus ac anffyddlon. Wrth i Caitlin a Dylan garu, yfed, ymladd a gadael ei gilydd, mae hanner cadeiriau’r cylch, wrth gael eu taflu a’u siabwrtho, yn gwneud eu rhan yn y ddeuawd rymus hon.

TREILYR CAITLIN

 

Hanes

Comisiwn gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru ar gyfer DT100/canmlywddiant Dylan Thomas yn 2014.

Eisioes bu CAITLIN ar daith lawer gwaith, gan gynnwys i Dance Base yng Nghaeredin yn ystod y Fringe yn 2015; Canolfan y Celfyddydau Battersea yn ystod #ANationsTheatre; Zoo Venues yn Showcase y Cyngor Prydeinig a Chymru yng Nghaeredin yn 2017; ac i Kolkata yn 2019 ar gyfer Cymru yn India.

Ffilmiwyd ar gyfer BBC Dance Passion yn 2019 (gwyliwch y fideo isod).

Dyddiadau Blaenorol

Llun: Warren Orchard

Llun: Warren Orchard

 

CAITLIN is a powerful piece that engages with the problem of the ‘secondary’ biography – the famous writer’s wife, the background to his foreground – with passion and humour.”

Exeunt Magazine

“Caitlin (★★★★) is harrowing physical theatre/dance, a brilliant and overwhelming enactment by Eddie Ladd and Gwyn Emerton of the effects of alcoholism, the life-in-death of Dylan Thomas and his wife, Caitlin. A Must See show, but only if you are feeling strong enough to take it.”

— Stephanie Green & Mark Harding, The Skinny

“It is a wonderful, movingly truthful ending to a peerless and revelatory performance.”

Cath Barton, Wales Arts Review

CAST A CHREADIGOL

Caitlin Eddie Ladd
Dylan Gwyn Emberton
Cyfarwyddwyd gan Deborah Light
Coreograffi gan Light, Ladd & Emberton
Sgôr gerddorol gan Thighpaulsandra
Sain gan Siôn Orgon
Gwisgoedd Neil Davies
Lluniau hyrwyddo gan Warren Orchard
Lluniau cynhyrchiad gan Warren Orchard a Noel Dacey
Cynhyrychwyd gan Laura H Drane

CEFNOGWYD AC ARIANNWYD GAN

Cyngor Celfyddydau Cymru,
Y Loteri Genedlaethol,
Llywodraeth Cymru,
Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth
Chapter
The Borough Theatre
Volcano

Go debyg y gallwn ail-lwyfannu’r sioe hon mewn sawl ffordd eto felly cysylltwch â: lightladdemberton@gmail.com