Daeth cwsg i gloi fy llygaid
A chrwydrais wlad ryfeddol wedyn
Perfformiad theatr ddawns ar draeth Harlech.
Bu’r ddawnswraig Margaret Morris yn Harlech ym 1919 yn cynnal ysgol haf. Ym myd y freuddwyd ar y traeth, ymuna griw arall gyda hi, ac yn eu plith mae’r cyfarwyddwr ffilm Roman Polanski, a saethodd Macbeth ar draeth Morfa Bychan; ymgyrchwyr Meibion Glyndŵr; yr archangel Mihangel a gofodwyr eraill; ac Ellis Wynne, y Bardd Cwsc ei hun.
O’r traeth, cewch weled byd newydd, gyda chymorth clustffonau ac…ysbienddrych.
Rhaglen ddogfen Culture Colony
Hanes
Comisiynwyd Croesi Traeth/Crossing a Beach gan Ŵyl Gregynog ar gyfer yr ŵyl yn Harlech 2017
Roedd yn brosiect mawr i ymchwilio a datblygu darn unigryw ar safle arbennig, sef traeth Harlech, lle cafodd ei ddyfeisio a’i berfformio.
Dyddiadau: Awst 2017
CAST A CHREADIGOL
Cyfarwyddyd a sgript gan Eddie Ladd
Cyd-gyfarwyddyd a gwaith dawns gan Gwyn Emberton
Dramatwrg/ymchwil ychwanegol gan Deborah Light
Perfformwyr: Tim Bromage, Rosalind Hâf Brooks, Gwyn Emberton, Matthew Harries a Lara Ward
Ymchwil dawns ychwanegol ar y safle gan Joanna Young
Trosleisio gan Llion Willimas
Cerddoriaeth/sain gan Siôn Orgon
Archif sain gan Lisa Heledd Jones
Dyluniwyd gan Becky Davies
Rheolwyd y cynhyrchiad gan Jane Lalljee
Cynhyrchwyd gan Laura H Drane
Cynorthwy-ydd cynhyrchu dan hyfforddiant: Claire Bottomley
Diolch i Fudiad Margaret Morris.
CEFNOGWYD AC ARIANNWYD GAN
Noddwyd gan Gronfa Loteri
Cyngor Celfyddydau Cymru,
Creu Cymru,
Tŷ Cerdd,
Cronfa Partneriaeth Eryri,
Theatr Ardudwy a Gŵyl Gregynog.
Go debyg y gallwn ail-lwyfannu’r sioe hon mewn sawl ffordd eto felly cysylltwch â: lightladdemberton@gmail.com