Gwasanaeth rhad ac am ddim i yrru perfformiadau unigryw i garreg drysau ledled Cymru oedd Danfona Ddawns. Cododd galon llawer un yn ystod Nadolig llwm 2020.
Gweithiwyd saith dawns fer gan berfformwyr yn eu milltir sgwâr a dafonwyd yr anrhegion cofiadwy hyn gan bobl at eu ffrindiau, teulu a chydweithwyr. Tynnu pawb at ei gilydd yn ystod yr amserau rhyfedd ac ynysig hyn oedd y nod.
Cafodd cynulleidfa fwy o faint rannu’r miri yn Danfona Ddawns - Parti’r Nadolig, awren o ymuno yn hwyl yr ŵyl a berfformiwyd ar Zoom.
Gydag Eddie Ladd a Gwyn Emberton yn cyflwyno, a Deborah Light, yr Arth Wen, yn cynorthwyo, dangoswyd ffilmiau o’r perfformiadau am yn ail â chwarae gemau digri a dawnsio i hoff ganeuon Cymraeg a Saesneg y ‘Dolig.
Darparwyd dehongliad BSL a sain- ddisgrifad byw gan ein partner Cwmni Theatr Taking Flight.
Hanes
Datblgwyd y prosiect ar gyfer Nadolig 2020 gyda chefnogaeth Grant Ymsefydlogi Cyngor Celfyddydau Cymru. Roedd rhoi anrhegion yn galon iddo: rhodd perfformiadau byw i lawenhau cymunedau ar draws Cymru; a rhodd gwaith a chyfleuon creadigol i artistiaid llawrydd mewn blwyddyn anodd i’n diwydiant.
“Rhyfeddol! Wedi gwirioneddol fwynhau gwylio hyn, diolch i chi.” - Sonia Burgess
“Diolch i @LightLaddEmber @Celf_Cymru am ddod â hud perfformiad byw i’n trothwy ddoe. Roedd y plant wedi cyffroi cymaint o gael rhyngweithio gyda Connor a’r tair arth wen. Mae wedi fy atgoffa o hud perfformiadau byw, ac mae gen i hiraeth amdanynt.” - Dr Rhiannon Williams
CREDITS
Cynhyrchwyd gan Laura Drane
Cynorthwy-ydd cynhyrchu Kama Roberts
Cynhyrchydd digidol, ffilmio a golygu gan Jorge Lizalde
Gwneuthurwyr ffilm Yannick Hamer, Pete Telfer/Culture Colony, Roger griffiths, Tchad a Stan Blake, Simon Clode
Hygyrchu gan Gwmni Theatr Taking Flight
Dyluniad gan Dr Julian Gravy
CEFNOGWYD AC ARIANNWYD GAN
Cyngor Celfyddydau Cymru
Llywodraeth Cymru & Y Loteri Genedlaethol.
Gyda diolch i
Impelo,
Chapter Arts Centre,
Barry Memo
& Carpet World.
Go debyg y gallwn ail-lwyfannu’r sioe hon mewn sawl ffordd eto felly cysylltwch â: lightladdemberton@gmail.com