Archwilio arfordir cyfoethog Cymru i ddatgelu storïau am yr hinsawdd i’n prosiect newydd
Ers misoedd lawer buom yn gwneud gwaith ymchwil a datblygu ar waith newydd posibl cysylltiedig ag argyfwng yr hinsawdd. Wrth weithio trwy’r pandemig, yn bell oddi wrth ein gilydd, rydyn ni wedi gofyn i’n hunain, sut mae gweithio mewn argyfwng hinsawdd, a sut mae ein gwaith yn ymateb i hynny? Cafodd peth o’r gwaith cynnar hwn ei gynnwys yn rhan o ddigwyddiad Dawns Swydd Efrog, ‘Climate Encounters’, ym mis Gorffennaf 2021, mewn sgwrs a hwyluswyd gan Vikram Iyengar – gan rannu ein prosesau ymchwil a’n canfyddiadau, ein harchwiliadau ar safleoedd, a’n camau posibl ymlaen.
Mae edafedd yr hinsawdd, gwladychiaeth a chyfalafiaeth yn rhedeg trwy bob rhan o’n gwaith ymchwil amlweddog. Gweir y rhain ynghyd â hanesion lleol cymhleth sy’n gorgyffwrdd â naratifau byd-eang, gan gynnwys:
- Y berthynas rhwng hen ddulliau a dulliau modern o ffermio a lefelau treuliant
- Y ffaith bod gormod o ddŵr (ee erydiad, llifogydd, toddi) neu ry ychydig (ee sychder, creu argaeau, llygredd)
- Gwadu sefyllfa’r hinsawdd a theorïau cynllwynio
- Safleoedd ar arfordir gorllewin Cymru o amgylch Bae Ceredigion