Helbul yr Hinsawdd
Prosiect newydd gan Light, Ladd, Emberton
Mae tri artist dawns yn archwilio eu perthynas â gwyddor hinsawdd ac yn wynebu eu cyfrifoldeb personol i chwilio am obaith o dan bwysau'r argyfwng hinsawdd.
Mae un yn ceisio deall tueddiad rhai i wadu newid hinsawdd.
Mae un yn ceisio deall effaith amaethyddiaeth ar yr amgylchedd.
Mae un yn ceisio deall y Wyddoniaeth.
Mae Helbul yr Hinsawdd yn archwilio sut mae’r gwirionedd a chamwybodaeth ynghylch yr hinsawdd yn fyd sy’n rhanedig ond hefyd yn gorgyffwrdd. Bydd y dryswch, y gwiriondeb, a'r panig y mae llawer ohonom yn ei deimlo yn cael ei archwilio drwy symud, testun, masgiau buchod, a siwt octopws, gyda'r nod o gynnig gobaith ynghylch y posibilrwydd o drobwyntiau cymdeithasol.
Wrth gyfeirio at brofiadau personol a'u rolau unigol, y gobaith yw ysgogi cynulleidfaoedd i fyfyrio ac ystyried y dyfodol amgylcheddol a dod o hyd i obaith mewn gwirioneddau anghyfforddus; yn union fel rydym ni wedi’i wneud:
““‘Fi yw’r broblem a’r datrysiad’.””
Dyfodol y sioe...
Byddwn yn datblygu'r gwaith i fod yn sioe lawn yn hydref 2023. Rydym yn bwriadu creu gwaith y mae modd ei addasu ar gyfer lleoliadau a digwyddiadau theatr traddodiadol, gwyliau a chynadleddau. Bydd y gwaith ar gael ar gyfer archebion o haf 2024.
Rydym yn chwilio am bartneriaid sydd â diddordeb ac a fyddai'n helpu i'n cefnogi ni i fynd ati i greu’r gwaith hwn. Fel rhan o'r cynnig ar gyfer y sioe hon, rydym yn awyddus i hwyluso sgyrsiau ynghylch yr hinsawdd gydag amrywiaeth o wahanol grwpiau a chymunedau, o ffermwyr ifanc, ysgolion a hyd yn oed gwyddonwyr. Felly bydd y gweithgareddau ategol canlynol ar gael ar ryw ffurf.
Gweithgareddau ychwanegol
Gweithdai Helbul yr Hinsawdd - archwiliwch eich ymateb emosiynol yn gorfforol wrth i ni symud, mynegi a darganfod ein gwirioneddau personol mewn perthynas â newid hinsawdd.
Dawnswyr mewn Sgwrs Gyda ... - Mae dau fyd yn gwrthdaro yn y sgwrs ddiddorol a hygyrch hon rhwng y gynulleidfa a’r perfformwyr. Mae sgyrsiau gonest, personol a diffuant yn torri'r swigen dryswch yn y sesiwn holi ac ateb gyda’r gynulleidfa.
Dangosiadau o 'amser / time' - Rydym hefyd yn gallu dangos ein ffilm ddawns arobryn ynghylch newid hinsawdd, amser / time.
Dyddiadau'r dyfodol
Yn dibynnu ar gyllid, ein nod yw creu'r gwaith yn hydref 2023, gyda’r teithio a pherfformiadau yn 2024.
PWY SYDD WEDI BOD YN GWEITHIO GYDA NI
-
DR AARON THIERRY
CYNGHORYDD GWYDDONOL
Fe wnaeth gwyddonydd ecolegol ac ymgyrchydd amgylcheddol gyfarfod â ni sawl gwaith ar-lein, gan ymuno â ni am ddeuddydd yng Ngregynog. Mae nawr yn gwneud doethuriaeth bellach sy'n astudio sut mae emosiwn a rhesymeg yn rhyngweithio o fewn strategaethau cyfathrebu'r mudiad argyfwng hinsawdd.
-
SARA BEER
YMGYNGHORYDD HYGYRCHEDD
Rhoddodd gymorth i ni wrth ddatblygu syniadau ynglŷn â sut gall ein gwaith yn y dyfodol fod yn hygyrch, o ran sut ellid ei brofi gyda chymorth isdeitlau, BSL ac ati. Byddwn yn parhau i ymgynghori â Sara yn ystod y cam cynhyrchu a thu hwnt.
-
SHANE NICKELS
CYNHYRCHYDD
Cawsom ein cefnogi gan Shane Nickels fel Cynhyrchydd, a gefnogodd y broses o weithredu, rheoli a chyflawni'r prosiect, gan gynorthwyo o ran ein ffordd o feddwl am ble bydd y gwaith yn y dyfodol yn digwydd, pwy fydd y gynulleidfa, a sut y byddant yn ei dderbyn.
Yr ymchwil hyd yn hyn...
Wrth ddychwelyd fel grŵp i'r stiwdio, fe wnaethon ni dreialu proses newydd sy'n groes i’n gwaith cydweithredol blaenorol; rydym wedi dewis peidio â chael arweinydd creadigol ar gyfer y prosiect, ond i barhau i rannu'r gwaith cyfarwyddo, sgriptio, a choreograffi fel prosiect ar y cyd. Mae hyn wedi ein harwain i greu rhywbeth beiddgar a bywiog, ein gwaith mwyaf personol hyd yn hyn.
Cefnogwyd ein gwaith ymchwil ac archwilio hefyd gan y gwyddonydd hinsawdd, Dr Aaron Thierry. O ganlyniad i’w ymchwil, arbenigedd a gwybodaeth bu modd sicrhau bod elfennau damcaniaethol ac academaidd y prosiect o safon uchel, a bod ein hymchwil ei hun yn dal dŵr, o ystyried ein bod yn cwestiynu sawl agwedd ar wyddoniaeth a thwyllwybodaeth.
Roedd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar barhau â gwaith amgylcheddol a wnead gennym dros gyfnod y pandemig, gan archwilio ein syniadau unigol a gweld lle roedd pwyntiau cyffredin er mwyn eu tynnu at ei gilydd. Mae'n adeiladu ar ein gwaith ffilm arobryn 'amser / time'.
Dysgwch fwy am Amser / Time
O’r hyn a ddysgwyd, y peth pwysicaf oedd archwilio'r berthynas rhwng celf ac ymgyrchu, ac effeithiolrwydd y naill a’r llall mewn perthynas â’r trobwyntiau cymdeithasol a'r trafodaethau o amgylch gwyddor hinsawdd. Bydd trobwyntiau’n ymwneud ag ysgogi unigolion i fyfyrio'n ddyfnach ar eu gwybodaeth am yr hinsawdd drwy'r personol, emosiynol a ffeithiol.
Mae ein hymchwil a’n gwaith gyda Dr Thierry yn tynnu sylw at angen brys i archwilio sut rydym yn cyfathrebu ynghylch gwyddor hinsawdd â'r cyhoedd. Pwysigrwydd hinsawdd â'r cyhoedd a phwysigrwydd torri’r swigen dryswch sy'n amgylchynu llawer o bobl ac yn gweithredu fel rhwystr rhag gallu ymgysylltu'n llawn ac yn weithredol.

Lluniau gan Full Mongrel



