Cododd Owain Glyndŵr yn erbyn coron Lloegr ym 1400.
Diflannodd, megis seren wib, erbyn 1409.
Mewn sioe ryngweithiol awr o hyd, dilynna’r gynulleidfa hynt y Mab Darogan ar loriau dawns mewn cestyll, meysydd ac adeiladau trefol. I gyfeiliant club classix a hoff ganeuon yr SRG,
arweinir y gynulleidfa drwy warchae, brad a thwmpath gan chwech o berfformwyr. Y gynulleidfa yw’r chwyldro, gyfaill.
Hanes Cymru bob yn gam.
Lej, sain, clustffonau ac…ysgogiadau bywiog.
Treilyr
Hanes
Comisiynwyd ar gyfer Blwyddyn Chwedlau Croeso Cymru yn 2017, gyda chefnogaeth CADW, Chapter, ac awdurdodau lleol Gwynedd, Conwy ac Ynys Môn. Ers hynny, bu Owain ar daith yng Nghymru a Lloegr (yn debyg i’r dyddiau a fu).
Esgynnodd i’w orseddfainc o flaen Senedd Cymru yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yn 2018.
Cafodd y darn ei gyflwyno yn Surf the Wave, sef siop ffenest i ddawns yn y DG, yn Bournemouth yn 2019. A bron iddo fynd i Dance Umbrella yn Llundain fis Hydref 2020, ond, och, canslwyd o achos Cofid.
“…it was incredible. When you looked around, everyone, I mean everyone looked like they were having the time of their lives spinning round and dancing in the middle of Harlech castle on a lovely summer’s evening looking out to sea.”
— Emma Leeke, Timeout Snowdonia.
“Dancing to history in a castle @LightLaddEmber silent disco soooo much fun. Could have danced all night! Diolch!”
“MAE FY NGHALON YN Y CHWYLDRO IEEEEEE! Diolch criw Disco Distaw #OwainGlyndwr am awr o ddawnsio ANHYGOEL!”
- @miriamelin23
CAST & CHREADIGOL
Cyfarwyddyd a choreograffi gan Gwyn Emberton
Sgript gan Eddie Ladd & Roger Owen
Perfformwyr:
Gwyn Emberton, Angharad Harrop, Eddie Ladd (fel Gwenith Owen), Roger Owen, Gemma Prangle, Math Roberts, Jess Williams, Deborah Light, Camille Giraudeau, Jake Nwogu
Sain gan Siôn Orgon
Dramatwrgiaeth gan Deborah Light
Cynhyrchwyd gan Laura H Drane
Rheolwr cynhyrchiad: Will Goad (2019)
Rheolwr cynhyrchiad: Jane Lalljee (2017/18)
Cynorthwy-ydd cynhyrchu: Tina Pastora (2018), Siri Wigdel (2017)
CEFNOGWYD AC ARIANNWYD GAN
Cyngor Celfyddydau Cymru,
Y Loteri Genedlaethol,
Llywodraeth Cymru,
CADW,
Chapter,
awdurdodau lleol Gwynedd,
Conwy ac Ynys Môn;
National Eisteddfod of Wales.
Go debyg y gallwn ail-lwyfannu’r sioe hon mewn sawl ffordd eto felly cysylltwch â: lightladdemberton@gmail.com