Danfona Ddawns: artistiaid dawns yn danfon dawns at garreg y drws ledled Cymru y Nadolig hwn
Mae gan Light, Ladd & Emberton gynnig arbennig y Nadolig hwn, sef y cyfle i chi archebu dawnsfeydd byw ar gyfer ffrindiau, teulu a chydweithwyr a’u danfon atynt i garreg y drws. Bydd pob dawns yn rhan o’u parti Nadolig ar-lein ar ddydd Sadwrn Rhagfyr 19eg hefyd.
Mae Light, Ladd & Emberton, cwmni dawns â’i gartref yma yng Nghymru, wedi llunio’r prosiect newydd hwn yn ystod mis Rhagfyr, ar y cyd gydag artistiaid llawrydd ledled Cymru. Cynnal rhyfeddod yr ŵyl yw’r nod a chodi calon wedi blwyddyn heriol ar y naw. Yn y gorffennol, mae’r cwmni wedi llwyfannu perfformiadau ymdrochol, megis CAITLIN a DISGO DISTAW OWAIN GLYNDŴR, mewn cestyll, neuaddau pentref, theatrau ac ar draethau.
Mae Danfona Ddawns yn cynnig perfformiadau twymgalon unigryw ar gyfer y Nadolig i bobl ledled Cymru o Ragfyr 10fed tan y 24ain.
Mae Danfona Ddawns yn berfformiad am ddim - dawnsfeydd byw, byrion gan berfformwyr lleol, a ddosberthir yn syth i garreg y drws neu at gymuned i’w swyno yn y cyfnod cadw-draw sydd ohoni.
Dywed Eddie Ladd o gwmni Light, Ladd & Emberton: “Y Nadolig hwn ‘y ni moyn cynnig anrhegion cofiadwy i bobl ledled Cymru. Â phethe fel ma’ nhw nawr mae’n debyg na fydd sawl un ohono’ ni’n galled bod gyda’n hanwyliaid yn ystod yr ŵyl ac mae digwyddiadau a pherfformiadau byw wedi diflannu fel yr ôd. Felly, byddwn ni’n cynnal mini-berfformiadau unigryw (a diogel!) ar garreg y drws tan noswyl y Nadolig.”
Mae wyth o ddawnswyr yn rhan o Danfona Ddawns ac yn perfformio yn yr ardaloedd lle maent yn byw, o Ragfyr 10fed tan y 24ain: Tim Bromage (Caerdydd), Rosalind Hâf Brooks (Bae Colwyn a Chaerdydd), Angharad Harrop (Hen Golwyn), Eddie Ladd (Ceredigion), Jake Nwogu (Rhaeadr Gwy & Llandrindod Wells), Deborah Light (Caerdydd) a Lara Ward (Y Barri & Chaerdydd). Yn ymuno â nhw mae’r actor a’r awdur Connor Allen, y perfformiwr Roger Owen, y delynores Helen Wyn Pari, y dawnsiwr Stan Blake a’r chwaraewr sacsoffon Paul West.
Ewch at lightladdemberton.com i archebu
Yn ogystal â danfon dawnsfeydd ledled Cymru, mae Light, Ladd & Emberton yn cynnal Danfona Ddawns - Y Parti Nadolig ar-lein ar ddydd Sadwrn Rhagfyr 19eg am 3yp a 7yh gydag Eddie Ladd a Gwyn Emberton yn cyflwyno a chefnogaeth gref gan Deborah Light fel yr Arth Wen.
Gall unrhywun alw draw i Danfona Ddawns - Y Parti Nadolig, lle byddwn yn dangos fideos o’r dawnsfeydd a berfformiwyd ym mhob ardal, chwarae gemau Nadolig digri, dawnsio i’ch hoff ganeuon Nadolig Cymraeg a Saesneg a sgloffio mins peis rhithiol, gwin brwd a sudd gyda’n gilydd…
Mae’r awren ryngweithiol ar-lein yn gyfle i’r sawl sydd wedi derbyn anrheg, ynghyd â’u teuluoedd a’u ffrindiau, i wylio rhai o fideos y prosiect yn ogystal â dawnsio i ganeuon ‘Dolig a chwarae gemau parti digri.
Bydd gan Danfona Ddawns – Y Parti Nadolig ddehongliad byw BSL gyda disgrifiad sain gan ein partneriaid Taking Flight.
Mae’r tocynnau ar gyfer y parti ar ddydd Sadwrn Rhagfyr 19eg, am 3yp a 7yh, yn rhad ac am ddim. Ewch draw at lightladdemberton.com am fwy o wybodaeth.
Noddir Danfona Ddawns Light, Ladd & Emberton gan Cyngor Celfyddydau Cymru, Llywodraeth Cymru, Impelo, Chapter Arts Centre & Barry Memo.
Llun - Warren Orchard